2011 Rhif 2842 (Cy. 306) (C. 100)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.

Mae'r darpariaethau a grybwyllir yn erthygl 2 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau penodedig i roi effaith i'r Mesur a dygir hwy i rym y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

Mae’r darpariaethau a ddygir i rym yn erthygl 3 yn dod i rym ar 1 Ionawr 2012 ac maent yn gosod dyletswydd ar awdurdodau perthnasol i baratoi strategaeth a’i rhoi ar waith yn unol â’r Mesur. Rhaid i strategaethau gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid eu cyhoeddi a threfnu eu bod ar gael i’w harchwilio.

Ar 1 Ionawr 2012 bydd holl ddarpariaethau'r Mesur mewn grym.

 


2011 Rhif  2842 (Cy. 306) (C. 100)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011

Gwnaed                            23 Tachwedd 2011

 Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 10 a 11 o Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010  (Cychwyn) 2011.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.

Cychwyn drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn

2. Yn ddarostyngedig i erthygl 3, mae’r Mesur yn dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.

Cychwyn ar 1 Ionawr 2012

3. Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Ionawr 2012—

(a)     Adran 2(2) (dyletswydd i weithredu strategaeth);

(b)     Adran 3(3) (gwybodaeth a chyngor yn unol â strategaeth i’w darparu’n ddi-dâl);  

(c)     Adran 6(1) i (3) (cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru);

(ch) Adran 7 (cyfle i’r cyhoedd gael gweld y strategaeth);

(d)     Adran 9 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol 1970).

 

Gwenda Thomas

 

Y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol o  dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

23 Tachwedd 2011



([1])           2010 mccc 5.